Rhys, Gruff - Rhagluniaeth Ysgafn Lyrics






O dyro i mi
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn

A phan ddaw'r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i'r achosion da
Ac er yr holl deithio
Y llwgr-wobrwyo
Y cyffuriau caled
Y merched o bedwar ban

Dw i wedi hen flino
Ar fy mhwdr areithio
Yr holl ddanteithio
Fy mrad o iaith y nef
Y rhegi cyhoeddus
Y lluniau anweddus
Fy nghabledd o flaen y groes

Yr hunan-dosturi
Y cwrw a'r miri
Fy ofer-ymffrostio
Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth

A phan ddaw'r cyfweliad
Erfynaf am fynediad
Drwy lidiart y nefoedd
I'r cyfoeth ar yr ochr draw
A chym i ystyriaeth
Er gwaethaf fy mhechodau
Fy holl rinweddau
Sy'n rhifo ar un llaw

Ond beth bynnag dy farn
Erfynaf am

Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw





Other Lyrics by Artist

Rand Lyrics

Last Posts

Rhys, Gruff Rhagluniaeth Ysgafn Comments